Mae teulu o'r Cymoedd yn dathlu canrif ffermio ym Maes Bach yn Nhon-teg, Pontypridd, drwy godi arian i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru. 

Yn 1924, prynodd Alfie, o Henffordd, fferm teulu gan Farcwis Bute. Ers hynny, mae pob cenhedlaeth wedi cymryd diddordeb mawr yn gweithio ar y tir. Mae'r fferm bellach yn cael ei rhedeg gan ŵyr Alfie, Clive Johnson.

Dywedodd Clive: “Daeth Alfie, fy nhad-cu, yn wreiddiol o Henffordd. Symudodd i Ynysybwl a phrynu ein fferm deuluol ganrif yn ôl.

“Mae fy mab Gwyn yn gweithio gyda ni. Ef yw'r bedwaredd genhedlaeth i ffermio yma ac mae fy ŵyr, Gethin, sy'n 7 oed, hefyd yn dangos diddordeb. 

“Mae hon yn garreg filltir bwysig iawn i ni. Rydym yn falch iawn o'r ffaith bod y Johnsons yn gallu dathlu'r garreg filltir anhygoel hon - canrif ar y fferm.” 

Penderfynodd Clive, ochr yn ochr â Mike Back a John Gray sydd hefyd â diddordeb mewn tractors, ddathlu'r achlysur drwy gynnal digwyddiad ar gyfer y gymuned.

Dywedodd: “Roeddem am roi Pontypridd ar y map a rhoi croeso cynnes gan y Cymoedd i bobl na fyddai ganddynt reswm i ymweld â'r fan hon. Rydym yn falch o ble rydym yn byw; mae'n ardal hardd sy'n llawn hanes.

“Gwnaethom greu grŵp o'r enw ֥‘Tractor Boys of Pontypridd’ a phenderfynu trefnu ras hwyl tractors. 

“Ym Mro Morgannwg y caiff digwyddiadau fferm eu cynnal fel arfer, lle ceir mwy o ffermwyr yn amlwg – felly roeddem am dynnu sylw at yr ardal a helpu achos da ar yr un pryd.” 

Dewisodd y teulu gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru, elusen Cymru gyfan sy'n rhoi gofal meddygol uwch sy'n achub bywydau i'r rhai sydd wedi dioddef salwch neu anafiadau sy'n bygwth bywyd neu rannau o'r corff. 

Caiff y gwasanaeth ei arwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. 

Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus o'r GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r elusen. 

Gwnaeth teulu Clive helpu gyda'r digwyddiad a gwnaeth ei ferch ei hyrwyddo ar-lein. 

Dywedodd: “Roeddem am gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru oherwydd ei bod yn elusen hanfodol. Gall ffermio fod yn waith peryglus a cheir rhywfaint o risg ar bob fferm. 

“Yn aml iawn, mae ffermwyr ledled Cymru yn gweithio ar eu pen eu hunain ar ffermydd sy'n wledig iawn. Gwnaeth y digwyddiad hwn dynnu sylw at y gwaith ardderchog y mae Ambiwlans Awyr Cymru yn ei wneud drwy ddarparu meddygon cymwys iawn i'r safle a gallu dod ag adran damweiniau ac achosion brys i'r lleoliad.” 

Gwnaeth ymdrechion Clive i godi ymwybyddiaeth daro deuddeg gyda chymunedau y tu hwnt i'w gymuned ei hun, gyda mwy na 30 o gerbydau yn ymuno â digwyddiad ‘Tri Chopa Pontypridd’.

Parhaodd Clive drwy ddweud: “Nid oeddem yn gallu credu'r ymateb a gawsom. Daeth pobl ar dractors o gyn belled i'r gorllewin â Margam ac o Aberthaw ger yr arfordir. 

“Ymunodd pobl â ni mewn hen dractors a thractors modern yn ogystal â beiciau cwad a cherbydau 4 x 4.”

Dechreuodd y rhai a gymerodd ran ym Maes Back, cyn gwneud eu ffordd at Fynydd y Garth lle cawsant weld golygfeydd anhygoel y cwm. Gwnaethant barhau drwy'r pentrefi lleol cyn gorffen mewn eiddo lleol sy'n gartref i gasgliad o hen dractors.

Gwnaeth y digwyddiad godi swm anhygoel o £2,100 i'r Elusen. 

Parhaodd Mair drwy ddweud: “Gwnaeth ddal dychymyg pobl. Mae wedi dechrau sgwrs am waith yr Elusen, ac mae llawer o bobl wedi rhannu eu straeon am y ffordd y maent wedi dod mewn cysylltiad â'r gwasanaeth. 

“Nid oeddem yn gallu credu'r rhoddion a'r cymorth a gawsom. Rhoddodd busnesau lleol wobrau raffl a gwnaeth pobl nad oedd yn gallu dod ar y diwrnod roi rhodd am eu bod yn teimlo ei fod yr achos mor werth chweil.” 

Dywedodd Mark Stevens, Pennaeth Codi Arian a Phartneriaethau Gwerth Uchel Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae'r holl dîm yn Ambiwlans Awyr Cymru am longyfarch teulu Johnson yn fawr iawn! 

“Rydym yn ddiolchgar iawn o fod wedi cael ein dewis fel elusen y digwyddiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi ein perthynas â'r gymuned wledig ac yn ddiolchgar am gefnogaeth Tractor Boys of Pontypridd. 

“Bob blwyddyn mae angen i ni godi £11.2 miliwn i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a'n cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Mae digwyddiadau codi arian fel hyn yn ein galluogi i wasanaethu pobl Cymru ac achub bywydau. Diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran.”