Noddwr Castles in the Sky yn addo codi miloedd o bunnoedd i elusen sy'n achub bywydau Mae Barratt Homes South Wales wedi addo codi £70,000 i Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl i'r staff ddewis y sefydliad fel eu Helusen y Flwyddyn. Mae'r adeiladwr tai wedi dechrau ei bartneriaeth drwy noddi un o'r 32 o gestyll mawr yn Abertawe fel rhan o'r llwybr celf cyhoeddus am ddim yr haf hwn, a gynhelir gan yr elusen sy'n achub bywydau. Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol. Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus o'r GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r elusen. Mae gan y rhai yn Barratt Homes South Wales gysylltiad personol â'r Elusen. Dywedodd Lewis Allwood, Rheolwr Marchnata Barratt Homes South Wales: “Roedd mab un o'n cydweithwyr yn rhan o wrthdrawiad car cas a daeth yr ambiwlans awyr i'r fan a'r lle. Yn ffodus, gwellodd yn llwyr. “Gwnaeth y gofal a dderbyniwyd yn y lleoliad gymaint o wahaniaeth. Cafodd y cysylltiad personol hwnnw â chydweithiwr chwarae effaith ar ein tîm, gan ymledu ar draws y busnes cyfan. “Mae'n wych bod y gwasanaeth yn dod ag adran frys symudol a theatr i'r claf yn effeithiol. Mae'n gwneud cymaint o synnwyr ac yn newid byd y rhai sydd ei angen.” Mae'r llwybr celf deg wythnos o hyd yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â'r darparwyr creadigol, Wild in Art, ac yn cael ei gefnogi gan Brif Bartner, sef Ardal Gwella Busnes Abertawe, ynghyd â Phartner Argraffu, BDP Wales, a Phartner Logisteg, Owens Group. Mae'r cwmni wedi noddi ‘Piccastle’, sef dyluniad gan Reilly Creative sydd wedi'i leoli ym Mhrifysgol Abertawe. Parhaodd Lewis drwy ddweud: “Maent yn dweud bod pob cartref yn gastell i rywun – felly mae'n sicr bod cysylltiad rhwng yr hyn rydym yn ei wneud fel adeiladwyr tai a'r llwybr. “Gwnaethom ddewis Piccastle am ei fod yn ddarn haniaethol lliwgar, sy'n sefyll allan - gwnaeth yr arlunydd waith anhygoel.” Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn darparu gwasanaeth meddygol uwch i bobl ledled Cymru ac yn dibynnu ar roddion elusennol er mwyn codi £11.2 miliwn bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awr a'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffyrdd. Parhaodd Lewis drwy ddweud: “Mae'n costio #cymaint i redeg y gwasanaeth.Wnaethon ni ddim sylweddoli fod yr elusen yn dibynnu ar roddion nes i Bennaeth Codi Arian yr elusen ddod i'n swyddfa a siarad â'n tîm. “Mae lefel y gofal critigol y mae'r criwiau yn ei darparu yn anhygoel. Rydym am helpu i godi ymwybyddiaeth ac annog pobl i'n helpu i godi arian.” Mae Barratt Homes South Wales yn bwriadu trefnu sawl digwyddiad codi arian yn y misoedd i ddod. Dywedodd Lewis, sydd hefyd yn Hyrwyddwr yr Elusen yn y rhanbarth: “Gwnaethom godi £73,000 ar gyfer Marie Curie y llynedd a hoffem gyrraedd y swm yna eto ac efallai gwneud yn well. “Mae gennym ddiwrnod golff tua diwedd mis Awst, a gobeithio y byddwn yn codi swm da o arian. “Rydym yn dueddol o gynnal taith gerdded elusennol, gan ei bod yn gynhwysol iawn, ac yn galluogi cydweithwyr o bob lefel o ffitrwydd i gymryd rhan. “Rydym hefyd yn ystyried cwblhau her y tri chopa cenedlaethol ac mae gennym feiciwr brwd yn ein tîm sydd am wneud taith feicio 200 milltir.” Dywedodd Mark Stevens, Pennaeth Codi Arian a Phartneriaethau Gwerth Uchel Ambiwlans Awyr Cymru: “Rydym yn falch iawn o glywed bod Barratt Homes South Wales wedi ein dewis fel eu Helusen y Flwyddyn. Bydd eu cymorth yn helpu i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a'n cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd, gan ein galluogi i achub bywydau ledled y wlad. “Mae eu tîm eisoes wedi cynllunio digwyddiadau codi arian gwych, ac roedd yn hyfryd dechrau'r bartneriaeth drwy noddi castell yn ein llwybr celf cyhoeddus. Mae'r llwybr yn agored i bawb, ac mae'r Elusen yn gobeithio y bydd yn denu cefnogwyr ledled y wlad a thu hwnt. I gloi, dywedodd Mark: “Os ydych yn chwilio am weithgaredd haf, mae hwn yn ddiwrnod allan perffaith. P'un a fyddwch yn dod o hyd i'r cestyll i gyd mewn un diwrnod, neu'n gwasgaru hyn ar draws ychydig wythnosau, byddwch yn gwneud gwahaniaeth. Os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, lawrlwythwch yr ap a theithiwch o amgylch y ddinas o safbwynt newydd. Mae gan bob castell ei hanes ei hun i'w hadrodd.” Ar ddiwedd y llwybr, bydd gweithiau celf ar thema cestyll yn cael eu harwerthu, gan godi arian hanfodol i'r Elusen sy'n achub bywydau. Manage Cookie Preferences