Mae bachgen ysgol dewr wedi dringo Pen y Fan gyda meddyg a helpodd i achub ei fywyd!

Achubwyd bywyd Ioan Watts, 11 oed, ym mis Hydref 2022 ar ôl iddo ddioddef anaf difrifol i'r ymennydd yn dilyn cwymp 8 troedfedd y tu allan i'w gartref, a achosodd iddo lanio ar ei ben.

Oherwydd natur ei anafiadau, anfonodd Ambiwlans Awyr Cymru dau dîm gofal critigol – un yn yr awyr, ac un ar y ffordd. Pan gyrhaeddodd yr ysbyty, roedd Ioan yn gwaedu o'i drwyn ac roedd ei ben wedi chwyddo.

Gweithiodd y meddygon i achub ei fywyd cyn ei drosglwyddo i'r Ganolfan Niwrolawdriniaeth a Thrawma Pediatrig yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Un o feddygon Ambiwlans Awyr Cymru y diwrnod hwnnw oedd Jez James. Dywedodd: “Roedd Ioan yn fachgen sâl iawn, un o'r rhai mwyaf sâl dwi wedi dod ar ei draws.

“Fel rhan o'n rôl, rydyn ni'n wynebu sefyllfaoedd anodd iawn, ond mae gen i fab o oedran tebyg ac mae'r alwad hon wedi aros yn y cof. Gwnaeth fy nghydweithwyr a minnau ein gorau glas dros Ioan, gan roi gofal critigol uwch iddo yn ei ardd. Roedden ni'n gwybod y bydden ni'n rhoi'r cyfle gorau posibl iddo oroesi, ond gan ei fod mor sâl, doedden ni ddim yn siŵr beth fyddai'r canlyniad.”

Treuliodd Ioan dair wythnos mewn coma a chafodd lawdriniaeth frys ar ei ymennydd.

Dywedodd Lydia, mam Ioan: “Ar ôl 3 wythnos mewn coma a llawdriniaeth frys ar ei ymennydd, dechreuodd Ioan ei adferiad araf, gan ddysgu sut i gerdded, siarad, a gwneud popeth roedd yn gallu ei wneud cyn y ddamwain. Gweithiodd yn galed iawn, ac ar ôl 3 mis yn yr ysbyty, daeth adref i barhau â'i adferiad.”

Roedd y bachgen 11 oed yn awyddus i godi arian ar gyfer yr elusen Cymru gyfan, a heriodd ei hun i ddringo copa uchaf De Cymru.

Cafodd Jez ei ysbrydoli gan gryfder ac adferiad Ioan, ac felly gwisgodd ei esgidiau cerdded i ymuno ag Ioan a'i deulu wrth iddynt ddringo Pen y Fan er budd Ambiwlans Awyr Cymru a'r Child Brain Injury Trust.

Dywedodd Jez: “Mae clywed hanes ein cyn-gleifion yn dilyn eu triniaeth yn bwysig iawn i ni, ac roedd adferiad Ioan yn rhyfeddol.

“Ar ôl i mi glywed ei fod yn bwriadu dringo Pen y Fan ar gyfer ein helusen, roeddwn i'n awyddus i ymuno â'r teulu. Mae wedi dangos penderfynoldeb rhyfeddol, ac yntau mor ifanc, gan ddysgu sut i gerdded a siarad eto, ac rwy'n ddiolchgar iawn ein bod wedi gallu helpu Ioan pan oedd ein hangen ni arno fwyaf.

“Roedd wir yn anhygoel ymuno ag Ioan a'i deulu i ddringo i'r copa.” 

Dywedodd Lydia: “Roedd Ioan yn edrych ymlaen at weld Jez yn dringo Pen y Fan gyda ni. Doedd yr un ohonon ni'n adnabod Jez o gwbl o ddiwrnod y ddamwain, felly roedd yn hyfryd cwrdd ag ef. Dywedodd Jez ei fod wedi siarad ag Ioan a dal ei ben tra roedd yn anymwybodol.

“Roedd Jez yn garedig iawn i roi o'i amser i ddod gyda ni. Fyddwn ni byth yn ei anghofio ef, Tom, Matt, na phawb arall a achubodd fywyd Ioan, ac rwy'n gobeithio eu bod yn gwybod pa mor ddiolchgar ydyn ni. Mae'n anodd iawn dod o hyd i'r geiriau i fynegi hynny. 


"Dechreuodd Ioan yn yr ysgol uwchradd ddoe a heb griw anhygoel yr ambiwlans awyr, fyddai ddim yma i gael yr holl brofiadau newydd hyn.”

Darperir y gwasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus o'r GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen. 

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol.

Mae Ioan, o Gaerffili, wedi codi £539 ar gyfer yr elusen ar ôl cwblhau ei her ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Dywedodd Lydia: “Mae anaf trawmatig i'r ymennydd yn gyflwr gydol oes, ac mae'r Child Brain Injury Trust wedi cefnogi Ioan, ei deulu, ei ysgol a'i ffrindiau yn ystod y cyfnod anodd hwn. Roedd Ioan am ddiolch i'r ddwy elusen hyn drwy godi cymaint o arian â phosibl!”

Nid dyma'r tro cyntaf i Ioan godi arian ar gyfer elusen – ym mis Gorffennaf 2023 heriodd ei hun i redeg ras 2k Caerffili. Ymunodd ei frawd iau, Rhodri, a'i ffrindiau ysgol ag ef, a gyda'i gilydd, gwnaethant godi £4,460 er budd Ambiwlans Awyr Cymru ac Arch Noa.

Mae Ioan hefyd wedi cwrdd â rhai o'r meddygon gofal critigol eraill a ofalodd amdano, ac roedd y tîm wrth eu bodd yng nghwmni'r bachgen ifanc digrif.

Dywedodd Abi Pearce, Rheolwr Codi Arian Rhanbarthol Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae Ioan yn seren. Roedd Ioan yn blentyn sâl iawn, ac roedd y criw a'i deulu yn ansicr a fyddai'n goroesi neu'n adfer – edrychwch arno nawr! Mae'n wych ei weld yn ymgymryd â'r her enfawr hon i godi arian hanfodol ar gyfer dwy elusen bwysig sy'n agos at ei galon.

“Mae Ioan wedi bod drwy gymaint ac yn ysbrydoliaeth go iawn. Roedden ni'n falch iawn bod Jez wedi ymgymryd â'r her gydag Ioan a'i deulu. Roedd yn golygu llawer i Jez allu cefnogi Ioan ar ei her ar ôl ei drin pan oedd mewn cyflwr critigol.

“Mae angen i'r Elusen godi £11.2 miliwn bob blwyddyn i'n galluogi i ddarparu gwasanaeth 24 awr, 365 diwrnod y flwyddyn, a bydd digwyddiadau codi arian fel hyn yn ein helpu i gyrraedd y targed blynyddol hwn. Yn ogystal â chael triniaeth gan ein meddygon sydd wedi achub ei fywyd, mae Ioan, drwy godi arian hanfodol i'r Elusen, hefyd wedi achub bywydau. Diolch yn fawr iawn.”