Mae gyrrwr lori o Dde Cymru yn ymgymryd â her ffitrwydd i helpu Ambiwlans Awyr Cymru ar ôl i'r gwasanaeth helpu ei brawd ar ddau achlysur ar wahân.

Mae Vykki Murphy, sy'n byw yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn paratoi i redeg 5km yr hydref hwn, fel ffordd o ddiolch i'r Elusen Cymru gyfan am achub bywyd ei brawd – ddwy waith.

Dywedodd Vykki: “Ym mis Hydref 2023, cafodd Jason ddamwain beic modur. Daeth oddi ar ei feic yn ceisio osgoi cerbyd arall pan oedd yn teithio ar ben Mynydd Maerdy yn y Rhondda. 

“Roedd yn sâl iawn, iawn, torrodd ei gefn a sawl asgwrn arall a chafodd anafiadau mewnol. Daeth Ambiwlans Awyr Cymru i'w achub a mynd ag ef i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

“Treuliodd fis yno a rhai misoedd eto yn gwella.”

Llai na chwe mis yn ddiweddarach, roedd angen help yr ambiwlans awyr ar Jason unwaith eto. 

Dywedodd Vykki, 39 oed: “Yn gynharach eleni, cafodd Jason ddamwain beic modur arall ym Mannau Brycheiniog, ac unwaith eto galwyd ar yr ambiwlans awyr i'w helpu.” 

Treuliodd Jason Ward, 37 oed, sy'n gweithio mewn ffatri yn Nhonypandy, dair wythnos yn yr ysbyty ac mae'n dal i wella o'i anafiadau, ond mae'r teulu yn ddiolchgar ei fod yn gwella. 

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf.  
Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus o'r GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r elusen.

Dywedodd Vykki, a gafodd ddamwain ychydig flynyddoedd yn ôl, gan ddioddef niwed cyhyrol mewn un goes a thorri ei harddwrn: “Rwy'n gefnogwr brwd o'r elusen, ac rwyf am godi cymaint o arian ag y gallaf. 

“Rwy'n bwriadu cwblhau 5k, drwy redeg, cerdded neu loncian. Bydd yn dibynnu'n llwyr ar fy hwyliau ar y diwrnod. Rwy'n falch o ba mor bell rwyf wedi dod – mae'r her hon yn daith ffitrwydd i mi hefyd.” 

Mae'r gyrrwr lori yn bwriadu dechrau'r daith yng ngorsaf yr RNLI ym Mhorthcawl, a mynd i'r orsaf achub bywydau yn Rest Bay ac yn ôl.

Gall Vykki redeg 3k ar hyn o bryd, ac mae'n gweithio ar gynyddu hyn yn raddol. Ychwanegodd: “Mae fy ffrind, sy'n hyfforddwr ffitrwydd yn fy helpu. Mae'n fy Nnog i wneud ymarferion yn fy nhrelar rhwng teithiau neu pan fyddaf yn aros am lwyth. 
 
“Rwy'n gwneud ‘squats’ neu ‘push-ups’ yn erbyn y wal, ac rwy'n rhedeg yn ôl ac ymlaen o flaen i gefn y trelar.” 
 
Mae teulu Vykki hefyd yn cymryd rhan, yn ei helpu gyda'i hyfforddiant. Dywedodd: “Pan fyddaf yn gorffen gwaith, byddaf yn mynd am dro hir iawn gyda fy nghi, ac weithiau bydd fy mhlant yn dod. 
 
“Byddaf yn mynd mor bell ag y gallaf. Byddaf yn gwneud ymarferion cynhesu ac oeri ac yn ceisio symud fy nghyhyrau a gwella fy ffitrwydd cardio. Yn raddol, rwy'n mynd ymhellach ac ymhellach.” 

Mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £11.2 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei gerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Dywedodd Vykki : “Mae'n syndod clywed faint mae'n ei gostio – dydych chi ddim yn sylweddoli beth mae'r tîm yn ei wneud nes i chi ymchwilio. 

“Cyn hyn i gyd, roeddwn yn credu y byddai'r hofrennydd yn cyrraedd y lleoliad, yn casglu'r claf ac yn mynd ag ef i'r ysbyty. Mae hyn wir wedi agor fy llygaid. Mae'r gost mor uchel am eu bod yn cynnal sawl hofrennydd a'r holl offer meddygol ar yr hofrenyddion. 
 
“Ynghyd â'r holl dîm meddygol medrus iawn ar yr hofrenyddion – mae'n hanfodol.” 
 
Dywedodd Abi Pierce, Rheolwr Codi Arian Rhanbarthol Ambiwlans Awyr Cymru ar gyfer Dwyrain De Cymru: “Mae'n rhyddhad clywed bod Jason yn gwella'n dda ar ôl cael dau wrthdrawiad traffig ffordd mewn chwe mis. Rydym yn falch bod ein gwasanaeth wedi gallu rhoi gofal iddo pan oedd ei angen fwyaf. 
 
“Hoffem hefyd ddiolch yn fawr i Vykki am ymgymryd â'r her ffitrwydd hon i helpu ein helusen sy'n achub bywydau. 
 
“Rydym yn gwasanaethu miloedd o gleifion ledled Cymru bob blwyddyn, yn cynnal triniaethau o safon ysbyty lle bynnag y bydd angen hynny.  Mae digwyddiadau codi arian fel hyn yn helpu i gadw ein hofrenyddion yn yr awyr a'n cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.”