Fel y mwyafrif o rieni, wrth i wyliau haf yr ysgol nesáu, gofynnodd Lotti Russell i'w mab, Henry, beth fyddai'n hoffi ei wneud gyda'i amser rhydd – dywedodd ei fod am fynd am dro a gosododd her anhygoel iddo'i hun o gerdded 100 milltir mewn dim ond chwe wythnos!

Mae Henry Russell, 7 oed, o sir Gaerfyrddin, wrth ei fodd o fod wedi cwblhau'r 100 milltir a chodi £661 i Ambiwlans Awyr Cymru.

Roedd y disgybl o Ysgol Tavernspite am godi arian i'r Elusen ar ôl i'w dad, Matt, fod angen help gan Ambiwlans Awyr Cymru yn 2011.

Gan fyfyrfio ar y digwyddiad codi arian, dywedodd mam Henry, Lotti, yn llawn balchder: “Roedd yn hyfryd. Rydym wedi cael haf gwych yn cwblhau'r teithiau cerdded hyn. Mae'n wir wedi ein gwthio i fynd allan am dro - yn enwedig ar ddyddiau pan mae'n glawio lle byddwn fel arfer yn diogi ond yn hytrach, gwnaeth pob un ohonom wisgo ein dillad diddos a mynd allan.

“Rydym wedi archwilio llefydd nad ydym erioed wedi'u gweld o'r blaen, a threulio llawer iawn o amser gyda'n gilydd fel teulu. Roedd yna rai dyddiau heriol iawn, ond gwnaethom ddal ati a chefnogi ein gilydd pan oedd angen.

“Roedd gennym linell derfyn arbennig ar gyfer ei daith gerdded olaf a chyflwyno medal iddo a gafodd ei chreu gan fy nghefnder. Roedd yn ffordd hyfryd o'i ddathlu yn cwblhau cyflawniad mor wych.”

Darperir y gwasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus o'r GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.  

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol.

Gwnaeth Henry, gyda chefnogaeth ei deulu gan gynnwys Emily ei chwaer fach, gwblhau'r milltiroedd drwy fynd ar hyd llwybr arfordir Sir Benfro, Cronfa Ddŵr Llys-y-Frân, 'park runs' Colby, yn ogystal â cherdded yn hamddenol drwy goedwigoedd. Cwblhaodd ei 100fed milltir drwy gwblhau llwybr hyfryd o amgylch Manorbîr! Ymunodd ei deulu, ffrindiau ysgol a'u teuluoedd ar ei daith gerdded olaf.

Dywedodd Henry: “Rwy'n falch o fod wedi cwblhau 100 milltir. Rwy'n falch iawn o fod wedi gorffen. Gwnes i fwynhau'r ymarfer corff a'r fforio. Fy hoff daith gerdded oedd yr un olaf oherwydd daeth fy ffrindiau gyda ni, a gwelsom forloi.”

Dywedodd Lotti: “Rydym yn falch iawn ohono a'i benderfyniad. Pan gwblhaodd ei 100 milltir, gofynnodd a fyddem yn gallu mynd am dro eto y diwrnod canlynol!”

Mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £11.2 miliwn o bunnoedd y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei gerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Mae Henry a'i deulu wedi cael eu ‘syfrdanu gan gymorth pawb’ ar ôl iddo rhagori ar ei darged codi arian gwreiddiol o £200.

Dywedodd Hannah Bartlett, Rheolwr Ymgysylltu â Chefnogwyr Ambiwlans Awyr Cymru: “Llongyfarchiadau enfawr i Henry, roedd yn her ardderchog i'w chwblhau mor ifanc â hynny. Rhoddodd Henry ei chwech wythnos o wyliau i godi arian hanfodol i Ambiwlans Awyr Cymru, sy'n anhygoel.

Roeddem yn falch iawn o glywed fod Henry wedi dewis ein Helusen ni ar ôl i'n meddygon helpu Matt, ei dad, yn 2011. Diolch i'w rieni am ei gefnogi gyda'r her ac i'w deulu a'i ffrindiau am roi arian i'r achos. Dylai Henry fod yn hynod falch o'r swm mae wedi ei godi i Ambiwlans Awyr Cymru.

“Mae angen i'r Elusen godi £11.2 miliwn bob blwyddyn i'n galluogi i ddarparu gwasanaeth 24 awr 365 diwrnod y flwyddyn. Bydd rhoddion, fel rhai Henry, yn sicrhau bod pobl Cymru yn cael y gofal gorau pan fydd ei angen arnynt fwyaf, yn yr awyr neu ar y ffordd. Mae Henry wedi achub bywydau.”