Ydych chi'n awyddus dod o hyd i ‘Castles in Sky’, efallai nid yn yr awyr ond o amgylch Abertawe?

 Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn gyffrous o fod wedi lansio ei helfa i chwilio am gestyll enfawr, sydd wedi eu gwasgaru o amgylch canol dref ac ardaloedd arfordirol Abertawe, gan godi arian ar yr un pryd.

Ydych chi, eich ffrindiau, eich teulu neu gydweithwyr eisiau wynebu'r her er budd achos sy'n achub bywydau? Os felly, gall ‘Castles in Sky’ fod yn berffaith i chi. Mae dros 30 o gestyll mawr i'r cefnogwyr ddod o hyd iddynt fel rhan o'r her - boed hynny drwy ymweld â rhai neu bob un ohonynt mewn un diwrnod, neu drwy ymweld â nhw dros sawl diwrnod. 

Llwybr celf gyhoeddus, am ddim, llawn hwyl, sy'n addas i deuluoedd yw Castles in the Sky, ac mae'n cael ei gynnal gan Ambiwlans Awyr Cymru. Mae dros 30 o gerfluniau o gestyll enfawr a 20 o gestyll bach wedi'u creu yn y ddinas ac mae'r Elusen yn annog ymwelwyr a phobl leol i ymgymryd â'r her o ddod o hyd i bob un ohonynt.  

Y peth gwych am yr her yw bod modd i chi ddewis sut y byddwch yn ei chwblhau, boed hynny drwy gerdded, rhedeg, sglefrfyrddio, beicio neu drwy droed-rolio. Yn syml, dewch o hyd i bob un o'r cerfluniau er mwyn codi arian hanfodol i Ambiwlans Awyr Cymru, gan gwblhau pellter o 8.5 milltir ar yr un pryd. 

Gallwch gymryd rhan ar ben eich hunan, mewn grŵp, neu drwy rannu'r digwyddiad yn ddarnau gydag eraill. Eich her chi yw hon, felly ceisiwch ei gwneud hi'n addas ar eich cyfer chi, eich ffrindiau, neu'ch teulu, a mwynhewch eich hunain.

Bydd 32 o gestyll mawr i'w canfod, felly lawrlwythwch yr ap am ddim i'w casglu https://swanseacastles.co.uk/app/

Cofrestrwch a chewch grys-t Ambiwlans Awyr Cymru cotwm unwaith y byddwch wedi codi £32 - £1 am bob castell y byddwch yn dod o hyd iddo.

Bydd plant o dan 11 oed yn cael tegan meddal ‘Del y ddraig’, sef masgot yr Elusen.

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol.    

Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus o'r GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r elusen.   

Fel gwasanaeth ledled Cymru, bydd y criwiau ambiwlans awyr ymroddedig, ni waeth ble maent wedi'u lleoli, yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal sy'n achub bywyd mewn argyfwng.  

Mae'r llwybr celf deg wythnos o hyd yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â'r darparwyr creadigol, Wild in Art ac yn cael ei gefnogi gan Brif Bartner, Ardal Gwella Busnes Abertawe).  

Mae'r llwybr yn agored i bawb, ac mae'r Elusen yn gobeithio y bydd yn denu cefnogwyr o bob cwr o'r wlad a thu hwnt.

Dywedodd Mark Stevens, Pennaeth Codi Arian i Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae hwn yn gyfle cyffrous i bobl o bob oed gymryd rhan yn ein hymgyrch ‘Castles in the Sky’, mae croeso i chi wynebu'r her yn unigol, gyda'ch wyrion a'ch wyresau, neu fel rhan o grŵp lleol. Gallwch bersonoli'r her a'i mwynhau wrth fynd yn eich blaenau.

“Os ydych yn chwilio am weithgaredd yr haf hwn, dyma'r diwrnod allan perffaith i chi. Hyd yn oed os byddwch yn dod o hyd i'r holl gestyll mewn un diwrnod, neu dros gyfnod o sawl wythnos, byddwch yn gwneud gwahaniaeth. Os nad ydych eisoes wedi gwneud, lawrlwythwch yr ap ac ewch o gwmpas y ddinas o berspectif newydd. Mae gan bob castell ei hanes i'w rannu.

“Mae ymgyrch ‘Castles in the Sky’  yn plethu diwylliant, celfyddyd a hanes Cymru. Rydym yn gobeithio y bydd yr ymwelwyr a ddaw i Abertawe a phobl leol yn mwynhau'r profiad unigryw o geisio dod o hyd i bob castell, gan godi arian sydd ei wir angen ar ein helusen Cymru gyfan.”

Am ragor o wybodaeth a gwybodaeth ar sut i gofrestru i gymryd rhan yn ymgyrch yr Elusen, ewch i  givp.nl/register/tKl2VSjn