Mae cyn glaf Ambiwlans Awyr Cymru wedi diolch i feddygon yr Elusen am achub ei fywyd drwy godi £2,330 ar gyfer yr achos.

Trefnodd Henry Hughes a'i deulu gyngerdd Cymraeg i ddangos eu gwerthfawrogiad i'r Elusen ar gyfer Cymru gyfan ar ôl i Henry gael ei gludo gan Ambiwlans Awyr Cymru, ym mis Mai 2023, yn dilyn ataliad y galon.

Dywedodd Henry, ffermwr o Langadfan yn y Trallwng: ‘Ni fyddwn i'n fyw heddiw heb ymyraeth criw Ambiwlans Awyr Cymru.”

Gwelodd y cyngerdd Cymraeg llwyddiannus fwy na 100 o bobl yn cefnogi'r digwyddiad, gyda Glyn Owens yn arwain y cyngerdd a Chôr Llangwm yn canu. Gwnaed rhoddion i'r achos hefyd gan bobl nad oeddent yn gallu bod yn bresennol ar y noson.

Darperir y gwasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae angen i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru godi £11.2 miliwn y flwyddyn i gadw ei hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus o'r GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.  

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol.

Fel gwasanaeth ledled Cymru, bydd y criwiau ambiwlans awyr ymroddedig, waeth ble maent wedi'u lleoli, yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal sy'n achub bywyd mewn argyfwng.

Dywedodd Meinir, gwraig Henry: “Mae Henry yn iawn erbyn hyn ac mae wedi cael gofal meddygol ardderchog drwy gydol y flwyddyn. Mae wedi bod yn ffodus dros ben ac rydym yn ddiolchgar iawn i Ambiwlans Awyr Cymru.

“Roedd llawer yn bresennol yn y cyngerdd Cymraeg a gwnaethom godi swm anhygoel fel cymuned fach iawn. Diolch i bawb a roddodd arian.”

Gyda'i wraig, gwnaeth Henry ymweld â'r Elusen, lle cyflwynodd siec am £2,330 i'r Rheolwr Codi Arian Rhanbarthol, Deb Sima, a'r swyddogion meddygol.

Dywedodd Deb Sima, Rheolwr Codi Arian Rhanbarthol Ambiwlans Awyr Cymru: “Mae bob amser yn galonogol ac yn ysbrydoledig clywed bod cyn glaf am helpu'r gwasanaeth a wnaeth achub ei fywyd drwy godi arian. Mae Henry yn gweld o brofiad pa mor bwysig yw ein Helusen ar gyfer Cymru gyfan ac mae'n ddiolchgar dros ben. 

“Diolch yn fawr i Henry a'i deulu am gefnogi ein hachos. Rydych wedi codi swm anhygoel o £2,330 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru. Bydd yr arian yn ein helpu i barhau i fod yno i bobl Cymru, fel pan oedd swyddogion meddygol yr ambiwlans awyr yno i Henry pan oedd ein hangen arno fwyaf. Rydym wir yn gwerthfawrogi eich cymorth ac roedd yn hyfryd cwrdd â'r ddau ohonoch pan wnaethoch gyflwyno'r siec.”