Yn Ambiwlans Awyr Cymru, mae'r peilotiaid yn rhan bwysig o'r tîm gofal critigol.  Wedi'r cyfan, dim peilot dim hofrennydd.

Mae gan Ambiwlans Awyr Cymru 22 o beilotiaid yn gweithio ledled gorsafoedd yr Elusen. Maent yn hedfan ar hyd a lled Cymru ac ar gael 24/7 365 diwrnod y flwyddyn. 

Un o'r peilotiaid hyn yw Nathan Griffith, a ymunodd â'r elusen ym mis Mawrth ac sy'n gweithio yng ngorsaf Caernarfon. Cyn hynny, bu'n hedfan Ambiwlans Awyr a HEMS yn yr Alban, ac roedd yn Gapten Hyfforddi yn hedfan i lwyfannau Olew a Nwy alltraeth.

Yma, mae'n dweud wrthym sut y daeth yn beilot ac am yr hyn mae'n ei fwynhau am weithio i'r Elusen sy'n achub bywydau.

Dywedodd Nathan: “Yn fyr, cefais fy nhrwydded peilot preifat awyrennau, gyda'r bwriad a ddilyn hyfforddant pellach a hedfan fel gyrfa. Trefnodd y grŵp hedfanaeth Bond (ar y pryd), gynllun noddi peilotiaid hofrenyddion o'r dechrau gyda'r cyfle i gael cyflogaeth wedyn. Gwnes gais amdano a llwyddais rywsut i basio'r cyfweliadau, y profion dewis a'r hyfforddiant.”

Cafodd Nathan ei ysbrydoli i ddod yn beilot ar ôl gweld yr hofrenyddion milwrol amrywiol yn hedfan o amgylch pan oedd yn blentyn yng Ngogledd Cymru. Nododd mai'r rhan fwyaf boddhaol o'i rôl yw ‘hedfan yr hofrennydd anhygoel H145’ i Ambiwlans Awyr Cymru. 

Mae angen i Elusen Ambiwlans Awyr Cymru godi £11.2 miliwn y flwyddyn i gadw ei fflyd o hofrenyddion yn yr awyr a chadw ei cherbydau ymateb cyflym ar y ffordd. 

Gan fyfyrio ar ba mor werthfawr yw gweithio i'r gwasanaeth sy'n achub bywydau bob awr o bob dydd dros Gymru gyfan, dywedodd Nathan: “Hedfan Ambiwlans Awyr/HEMS, yn un o'r swyddi mwyaf gwerth chweil mewn hedfanaeth, ac mae bod yn Gymro sy'n hedfan yng Nghymru ar ran Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn fraint enfawr. Roeddwn yn dyheu am gael hedfan i'r Elusen yng Nghymru am nifer o flynyddoedd, ac felly roedd cerdded i mewn i'r sied awyrennau yng Nghaernarfon ar gyfer fy sifft hedfan cyntaf yn brofiad cofiadwy iawn.”

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol.   

 Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus o'r GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r elusen.  

Fel gwasanaeth ledled Cymru, bydd y criwiau ambiwlans awyr ymroddedig, ni waeth ble maent wedi'u lleoli, yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal sy'n achub bywyd mewn argyfwng. 

Felly, pa gyngor y byddai Nathan, sy'n mwynhau'r golygfeydd wrth ymgymryd â'i rôl fel peilot, yn ei roi i rywun sy'n ystyried ymuno â'r diwydiant - dywedodd: “Yn gyntaf, os ydych eisiau hedfan yn fasnachol, gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu diwallu a phasio holl ofynion meddygol Dosbarth 1 yr Awdurdod Hedfan Sifil. Ceisiwch gymryd rhan mewn gweithgarwch sy'n ymwneud â hedfan ryw ffordd neu'i gilydd, hyd yn oed os yw drwy'r Cadetiaid Awyr, drwy gleidio neu drwy weithio/gwirfoddoli yn eich maes awyr lleol. Mae'n werth ystyried mynd i lawr y llwybr milwrol am eu bod yn talu am eich hyfforddiant. Neu, cadwch olwg am gynlluniau noddi sy'n cael eu hyrwyddo, neu cynilwch eich arian a thalwch am hyfforddiant eich hun.”