Cyhoeddwyd: 07 Mai 2024

Daeth disgyblion o ysgol yng Ngogledd Cymru yn llu i gymryd rhan yn nigwyddiad cyntaf Coffi a Chacen elusen Ambiwlans Awyr Cymru er mwyn codi arian hanfodol ar gyfer ei hachos.

Bob blwyddyn bydd grŵp elusen Ysgol Bro Llifon yn cynnal gweithgareddau ar gyfer elusennau lleol a chenedlaethol. Ar ôl clywed am ymgyrch yr elusen Cymru gyfan, roedd y disgyblion yn awyddus i gymryd rhan a chodwyd swm anhygoel o £559.

Gofynnodd yr elusen i'w chefnogwyr ddod ynghyd i godi ychydig o arian yn ystod mis Mawrth ac i ddathlu 23 mlynedd o wasanaeth sy'n achub bywyd. Mae ymgyrch codi arian Coffi a Chacen yn galluogi cyfranogwyr i ddewis amser a lleoliad sy'n addas iddynt. Rhoddodd y cyfle i gefnogwyr ymgynnull gyda'u ffrindiau a'u teulu, ac roedd yn agored i bobl ar-lein ac wyneb yn wyneb.

Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion y cyhoedd i godi'r £11.2 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd ledled Cymru.

Cynhaliwyd cystadleuaeth yn yr ysgol hefyd i greu baneri a fyddai'n cynrychioli gwaith yr elusen sy'n achub bywydau. Cafodd y baneri eu harddangos yn y neuadd yn ystod y cyfnod cyn y digwyddiad, ac roeddent yn ganolbwynt yn ystod ymgyrch codi arian Coffi a Chacen.

Dywedodd Swyn Maelor, pennaeth Ysgol Bro Llifon: "Aeth pob dosbarth ati i bobi amrywiaeth o gacennau ar gyfer y prynhawn. Anfonwyd llythyrau at y rhieni a rhoddwyd nodyn ar gyfryngau cymdeithasol yr ysgol yn gofyn am eu cefnogaeth.

"Cafodd holl blant yr ysgol y cyfle i gael diod a theisen y prynhawn hwnnw. Nid oeddem yn siŵr faint o rieni a fyddai'n troi i fyny, ond mewn dim o amser roedd torf ohonynt o amgylch yr ysgol. Roeddem wedi rhyfeddu ar yr holl gefnogaeth."

Cafodd Alwyn Jones, Rheolwr Codi Arian Rhanbarthol Ambiwlans Awyr Cymru, ei wahodd i'r ysgol i dderbyn y siec ar ran yr Elusen.

Dywedodd Alwyn: "Roedd yn hyfryd clywed bod yr ysgol eisiau cefnogi ein hachos. Cymerodd y plant ran yn dylunio'r baneri yn tynnu sylw at y gwaith y mae ein helusen yn ei wneud ledled Cymru. Gwnaethant gacennau prydferth, a chafwyd prynhawn hyfryd gyda'u teuluoedd a'u ffrindiau.

"Diolch i'r holl ddisgyblion, staff, rhieni a phawb a gyfrannodd at y digwyddiad Coffi a Chacen, mae'n amlwg eich bod wedi cael prynhawn anhygoel. Mae'r elusen yn dibynnu ar roddion fel hyn i gadw ein pedwar hofrennydd yn yr awyr a chadw ein cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd. Diolch yn fawr, bawb.”

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cael ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu ei anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol. 

Darperir y gwasanaeth drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus gan y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.