Cyhoeddwyd: 18 Ebrill 2024

Mae gwraig o Ynys Môn wedi ymuno â seren Bidding Room, Simon Bower, am yr ail flwyddyn yn olynol er mwyn gwerthu eitemau er budd Ambiwlans Awyr Cymru.

Aeth Lucy Clarke, a oedd yn arfer gweithio yn y sector twristiaeth a Simon, sydd wedi bod yn gweithio gydag Arwerthwyr Morgan Evans am tua thri deg o flynyddoedd, i ymdrech fawr i gefnogi'r elusen sy'n achub bywydau.

Roedd y fenyw 27 oed sy'n wreiddiol o Lundain am greu digwyddiad a fyddai'n codi arian ac ymwybyddiaeth hanfodol ar gyfer yr Elusen Cymru gyfan.

Dywedodd: "Mae'r elusen yn dibynnu'n gyfan gwbl ar roddion gan y cyhoedd i oroesi! Nid oes llawer o bobl yn ymwybodol o hynny.

"Rwyf am addysgu pobl a'u hannog i gymryd rhan. Mae'n wasanaeth y gall fod ei angen ar unrhyw un, un dydd, boed yn ffrind neu'n aelod o'r teulu."

Ambiwlans Awyr Cymru yw'r unig elusen ambiwlans awyr sydd wedi'i lleoli yng Nghymru ac sy'n ymrwymedig i'r bobl yng Nghymru a chaiff ei darparu drwy bartneriaeth unigryw rhwng y Trydydd Sector a'r Sector Cyhoeddus. Mae’r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn darparu meddygon ymgynghorol ac ymarferwyr gofal critigol hynod fedrus gan y GIG sy’n gweithio ar gerbydau’r Elusen.

Caiff ei harwain gan feddygon ymgynghorol, ac mae'n mynd â thriniaethau o safon ysbyty at y claf ac, os oes angen, yn ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'r ysbyty mwyaf priodol ar gyfer ei salwch neu anaf. I'r claf, gall hyn arbed oriau o gymharu â gofal safonol ac mae'n cynyddu'r tebygolrwydd y bydd yn goroesi ac yn gwella'n gynnar yn sylweddol. 

Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion y cyhoedd i godi'r £11.2 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Dywedodd Lucy ei bod wedi sylweddoli wrth fyw ble mae hi'n byw a gweithio yn y sector twristiaeth pa mor bwysig yw'r gwasanaeth, nid yn unig i'r gymuned, ond hefyd i ymwelwyr.

Dywedodd: "Mae llawer o leoliadau anhygoel i gerdded a dringo ac efallai na fydd rhai pobl wedi dringo mynyddoedd o'r blaen, a phwy a ŵyr efallai y bydd angen ambiwlans awyr arnynt un dydd.

"Mae hefyd yn dawelwch meddwl i bobl leol hefyd pe byddai unrhyw beth yn digwydd i unrhyw un ohonom - y gall y tîm anhygoel hwn deithio i leoliad digwyddiad unrhyw le."

Nôl yn 2022, penderfynodd Lucy gysylltu â Simon Bower, tad ei ffrind gorau, i weld a fyddai'r arwerthwr yn fodlon cymryd rhan mewn digwyddiad codi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru ym Mharc Gwyliau Plas Coch.

Dywedodd: "Dywedais wrtho y byddwn i'n trefnu'r holl eitemau ar gyfer yr ocsiwn, y lleoliad a'r pethau y tu ôl i'r llenni a gofynnais a fyddai'n barod i gynnal yr ocsiwn i mi, a chytunodd i wneud hynny a dechreuodd popeth o'r fan honno. Roedd y digwyddiad cyntaf hwnnw yn arbennig, a gwnaethom godi £6,000. Roeddwn am wneud yr un peth unwaith eto y Gaeaf diwethaf a chytunodd Simon i gefnogi

Cafodd Lucy gefnogaeth busnesau lleol hefyd, a dywedodd: "I fod yn onest cytunodd pawb y gwnaethom ofyn iddynt i gymryd rhan, ac roedd hynny'n wych. Cymerodd tua dau fis i baratoi a chael popeth yn barod."

Cychwynnodd Rheolwr Codi Arian Rhanbarthol Ambiwlans Awyr Cymru Lleol, Alwyn Jones y trafodaethau ar y noson, drwy dynnu sylw at waith yr Elusen.

Dywedodd Lucy: "Siaradodd yn arbennig am y gwaith y mae'r elusen yn ei wneud. Gwnaeth ei drafodaeth dynnu sylw at bwysigrwydd digwyddiadau codi arian a sut mae'r rhoddion yn mynd tuag at yr arian sydd ei angen ar yr elusen er mwyn rhedeg y gwasanaeth.

Mae Elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn dibynnu ar roddion y cyhoedd i godi'r £11.2 miliwn sydd ei angen bob blwyddyn i gadw'r hofrenyddion yn yr awyr a'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffordd.

Gyda thua 60 o eitemau'n cael eu gwerthu yn yr ocsiwn, gan gynnwys taith mewn hofrennydd wedi'i rhoi gan rywun o Gaernarfon a the prynhawn i ddau ym Miwmares - llwyddodd digwyddiad codi arian Lucy a Simon i godi dros £4,000.

Dywedodd Lucy: "Mae'n swm anhygoel, yn enwedig o ystyried yr amgylchiadau rydym yn byw ynddynt ar hyn o bryd gyda'r argyfwng costau byw, chwyddiant a phethau tebyg"

Rhoddodd y ddau ohonynt y siec i'r tîm yn y lleoliad yng Nghaernarfon yn ddiweddar a dweud: "Roedd yn anhygoel cwrdd â'r holl feddygon a'r rhai yn yr orsaf awyr. Roeddwn yn falch iawn o sylweddoli at beth roedd yr arian roeddem wedi ei godi yn mynd."

Dywedodd Alwyn Jones, Rheolwr Codi Arian Rhanbarthol Ambiwlans Awyr Cymru: "Rydym yn ddiolchgar iawn i Lucy a Simon am godi cymaint o arian ar gyfer ein gwasanaeth sy'n achub bywydau.Mae deng mil o bunnoedd mewn dwy flynedd yn swm rhyfeddol!

"Rydym yn gwerthfawrogi’r amser mae pobl yn ei dreulio yn trefnu digwyddiadau o'r fath ac mae'n wych gweld faint o fusnesau lleol a roddodd eitemau i'r ocsiwn hefyd. Mae angen i ni godi £11.2 miliwn o bunnoedd bob blwyddyn er mwyn cadw ein hofrenyddion yn yr awyr a'r cerbydau ymateb cyflym ar y ffyrdd. Ni fyddai hyn yn bosibl heb gymorth unigolion fel Lucy a Simon.

“Diolch i bawb a gymerodd ran yn y digwyddiad.